Ei gyfiawnder dwyfol Ef

1,2,3,(4,6);  1,2,4,5;  1,2,4,6.
("Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth.")
Ei gyfiawnder dwyfol Ef
Ydyw'm cadarn noddfa gref
  'Cholla'i 'ngafael arno ddim
  Pan b'o 'mhechod yn ei rym.

Dàn Ei gysgod byddaf byw;
Uwch pob trysor gwaed fy Nuw;
  Nis gall nerthoedd uffern faith
  Ddim fy nrygu ar fy nhaith.

Ar Galfaria un prydnawn
Cawsom goncwest hyfryd iawn;
  Uffern faith, a'i hanferth rym,
  Ddarostyngwyd 'lawr i ddim.

Fe achubodd Ef fy mlaen,
Ar y ffordd i uffern dân:
  Yn Ei allu d'es yn ôl,
  'N awr wyf dawel yn Ei gôl.

Dy glwyfau rhed i maes
Afon ddwyfol loew lâs,
  Sydd yn achub, sy'n glanhau
  Myrddiwn o'r aflanaf rai.

Nid yw orchest imi'n awr
Garu fy Eiriolwr mawr;
  Nid oes genyf ond Efe,
  Ar y ddaear, yn y ne'.
Ydyw'm cadarn noddfa :: Yw fy noddfa gadarn
Dàn Ei gysgod :: Tan ei gysgod
nerthoedd :: pŵer

William Williams 1717-91

Tonau [7777]:
Battishill/Melton (Jonathan Battishill 1738-1801)
Cyprus (F Mendelssohn-Bartholdy 1809-47)
Durham (alaw Eglwysig)
German Hymn (Ignaz J Pleyel 1757-1831)
Heinlein (Nürnbergisches Gesangbuch 1676)
Hoole (<1875)
  Townhead (<1835)

gwelir:
  Dacw'r ffynnon heddyw gaed
  Does gyffelyb iddo Ef

("In whom we have redemption.")
His divine righteousness
Is my firm, strong refuge
  I shall never lose my grip upon it
  When my sin be in its force.

Under his shadow I shall live;
Above every treasure the blood of my God;
  The strengths of vast hell cannot
  At all do me harm on my journey.

On Calvary one afternoon
We got a very delightful conquest;
  Vast hell, and its enormous force,
  Was subdued down to nothing.

He saved me from going onward,
Along the road to hell fire:
  In his power I came back,
  Now I am quiet in his bosom.

Thy wounds flow out
A divine, clear, blue river,
  Which is saving, which is cleansing
  Myriads of the most unclean sort.

It is no effort for me now
To love my great Mediator;
  I have nothing but him,
  On the earth, in heaven.
::
::
strengths :: power


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~